Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


14 Mathern


14 ardal gymeriad Mathern: llain fach o lifwaddod arfordirol. (Ffoto: GGAT Gwent Levels2 017)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Er mai o'r unfed ganrif ar bymtheg y mae'r cyfeiriadau cynharaf at ddolydd adferedig yn yr ardal hon yn dyddio, mae bron yn sicr i'r dirwedd gael ei chreu yn ystod y cyfnod uwch ganoloesol (sef yr unfed ganrif ar ddeg i'r bedwaredd ganrif ar ddeg).

Ychydig iawn o dystiolaeth ddogfennol sydd gennym yn ymwneud â'r ardal o lifwaddod ym Mathern a Chas-gwent. Cofnodir nifer fawr o ddolydd am y tro cyntaf o'r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen, er ei bod yn debyg iddynt gael eu hadfer sawl canrif yn gynharach. Mae'r enw "monks mead" yn awgrymu bod cysylltiad ag Esgobion Llandaf, a oedd yn berchen ar Fathern.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Patrwm caeau afreolaidd, morglawdd o bridd, nodweddion draenio gan gynnwys prif sianel artiffisial, gyrlwybrau dolennog, dim aneddiadau

Parsel ar wahân o lifwaddod arfordirol. Gwahenir yr ardal hon a Gwastadedd St. Pierre gan yr esgair o greigwely yn Red Cliff.

Mae i'r ardal hon "dirwedd afreolaidd" nodweddiadol, a dau yrlwybr dolennog, er nad oes unrhyw anheddiad. Dilynai ffin plwyf Mathern/Cas-gwent brif sianel artiffisial na wyddom pryd y'i cloddiwyd. Amddiffynnir y morlin gan forglawdd isel o bridd.

Er yr arferai fod yn ardal o "dirwedd afreolaidd" nodweddiadol, niweidiwyd y parsel hwn o lifwaddod arfordirol sy'n anarferol fach drwy glirio cynifer o ffiniau caeau. Mae'r ychydig o wrychoedd sydd wedi goroesi yn rhai wedi'u torri gan mwyaf. Mae'r rheilffordd a set o beilonau hefyd yn ymwthiol yn weledol.

At ei gilydd, felly, amharwyd gryn dipyn ar gyfanrwydd a chydlyniant y dirwedd hon, er y deil yn ardal dawel ac ar wahân o dirwedd gwlyptir gerllaw'r Moryd.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk